Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Adfywio Canol Trefi
Cylch Gorchwyl
Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:
• Pa ddulliau a ddefnyddiwyd i fynd ati i adfywio canol trefi yng Nghymru, ac i ariannu’r gwaith hwn? A oes unrhyw wersi i’w dysgu o lefydd eraill?
• Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i hyrwyddo’r gwaith o adfywio canol trefi yng Nghymru?
• Sut mae budd a gweithgareddau cymunedau, busnesau, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru yn cael eu nodi a’u cydlynu pan mae prosiectau adfywio canol trefi yn cael eu datblygu a’u rhoi ar waith?